All vacancies

Rheolwr Prosiect

Ynglŷn â’r swydd

Mae rhanbarth Caerdydd a’r Fro wedi llwyddo i sicrhau cyllid i gyflawni ymarfer mapio a nodi ehangder cyfleoedd gwirfoddoli cyfredol. Mae’r rôl yn cynnwys gwerthuso data a gasglwyd gan Gyngor Caerdydd a sefydliad partner a chwblhau gwerthusiad terfynol i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Beth rydym yn ei ddisgwyl gennych chi

Bydd gennych brofiad o weithio mewn maes cymunedol. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o ymgysylltu â sefydliadau sector cyhoeddus neu drydydd sector.  Bydd gennych brofiad o ddadansoddi data cymhleth a pharatoi adroddiadau ar gyfer uwch-reolwyr. Bydd gennych brofiad o ddefnyddio systemau TGCh, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog ynghyd â’r gallu i ddwyn ynghyd nifer o wasanaethau mewn dull effeithiol. Bydd gennych brofiad o gydgysylltu â sefydliadau partner a mynychu cyfarfodydd. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Swydd dros dro am 3 mis o’r dyddiad dechrau yw hon.

Bydd y rôl yn gofyn i chi weithio o gartref yn bennaf. Byddwch yn cael adnoddau gan gynnwys gliniadur a ffôn symudol. Mae’n bosib y bydd modd i chi weithio o adeiladau sydd wedi bod yn destun asesiad risg.

Cyfradd fesul awr y rôl yw £17.51p (£33,782 y flwyddyn).

Rheolwr Prosiect

Register with us today